Iwan Rheon - Rhodd lyrics

Published

0 268 0

Iwan Rheon - Rhodd lyrics

[Verse 1] Yn y pridd Mae ein hadau ni Ga ni weld nhw'n tyfu I mewn i rywbeth gwell [Verse 2] Ger y llyn Yn eu dyfnder hi Rhwydo gwres y dŵr Yn hel atgofion [Chorus] Mae'r ffordd yn hir Ond, ambell waith Gall rhodd Gael ei ollwng Ar dy draed [Verse 3] Amser hir Ers i ni weld nhw Licris ar fy llw 'Naeth i fi deimlo'n sâl [Verse 4] Ar y dde Roedd y tannau'n wyn A dy wyneb di'n lun O fod yn rywbeth gwell [Chorus] Mae'r ffordd yn hir Ond, ambell waith Gall rhodd Gael ei ollwng Ar dy draed [Verse 5] Yn y pridd Mae'n cyndadau ni, ei'n tadau ni Be 'allwn ni ddysgu I fod yn rywbeth gwell [Verse 6] Bob dydd Mae nhw'n newid ni Dŵr ar wefusau sych Sy' byth yn ildio [Chorus] Mae'r ffordd yn hir Ond, nid oes bai Dyma rodd Ar fodiau dy draed