[Verse 1]
Yn y pridd
Mae ein hadau ni
Ga ni weld nhw'n tyfu
I mewn i rywbeth gwell
[Verse 2]
Ger y llyn
Yn eu dyfnder hi
Rhwydo gwres y dŵr
Yn hel atgofion
[Chorus]
Mae'r ffordd yn hir
Ond, ambell waith
Gall rhodd
Gael ei ollwng
Ar dy draed
[Verse 3]
Amser hir
Ers i ni weld nhw
Licris ar fy llw
'Naeth i fi deimlo'n sâl
[Verse 4]
Ar y dde
Roedd y tannau'n wyn
A dy wyneb di'n lun
O fod yn rywbeth gwell
[Chorus]
Mae'r ffordd yn hir
Ond, ambell waith
Gall rhodd
Gael ei ollwng
Ar dy draed
[Verse 5]
Yn y pridd
Mae'n cyndadau ni, ei'n tadau ni
Be 'allwn ni ddysgu
I fod yn rywbeth gwell
[Verse 6]
Bob dydd
Mae nhw'n newid ni
Dŵr ar wefusau sych
Sy' byth yn ildio
[Chorus]
Mae'r ffordd yn hir
Ond, nid oes bai
Dyma rodd
Ar fodiau dy draed